9 Ac os dechrau merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân.
10 A'r offeiriad pennaf o'i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew'r eneiniad ar ei ben, ac a gysegrwyd i wisgo'r gwisgoedd, na ddiosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad:
11 Ac na ddeued at gorff un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam:
12 Ac nac aed allan o'r cysegr, ac na haloged gysegr ei Dduw; am fod coron olew eneiniad ei Dduw arno ef: myfi yw yr Arglwydd.
13 A chymered efe wraig yn ei morwyndod.
14 Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymered: ond cymered forwyn o'i bobl ei hun yn wraig.
15 Ac na haloged ei had ymysg ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef.