1 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn.
3 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a'r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i'r Arglwydd yn eich holl drigfannau.
4 Dyma wyliau yr Arglwydd, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor.