18 Ac offrymwch gyda'r bara saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i'r Arglwydd fyddant hwy, ynghyd â'u bwyd‐offrwm a'u diod‐offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
19 Yna aberthwch un bwch geifr yn bech‐aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.
20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara'r blaenffrwyth, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd, ynghyd â'r ddau oen: cysegredig i'r Arglwydd ac eiddo'r offeiriad fyddant.
21 A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.
22 A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i'r tlawd a'r dieithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
24 Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd.