24 Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd.
25 Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd.
26 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
27 Y degfed dydd o'r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymod; cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd.
28 Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymod yw, i wneuthur cymod drosoch gerbron yr Arglwydd eich Duw.
29 Canys pob enaid a'r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
30 A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl.