29 Canys pob enaid a'r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
30 A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl.
31 Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragwyddol, trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn.
32 Saboth gorffwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o'r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth.
33 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.
34 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i'r Arglwydd.
35 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch.