33 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.
34 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i'r Arglwydd.
35 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch.
36 Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i'r Arglwydd: ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i'r Arglwydd: uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith.
37 Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i'r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd‐offrwm, aberth, a diod‐offrwm; pob peth yn ei ddydd:
38 Heblaw Sabothau yr Arglwydd, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i'r Arglwydd.
39 Ac ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd.