39 Ac ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd.
40 A'r dydd cyntaf cymerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.
41 A chedwch hon yn ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl.
42 Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod:
43 Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
44 A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel.