5 O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr Arglwydd.
6 A'r pymthegfed dydd o'r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i'r Arglwydd: saith niwrnod y bwytewch fara croyw.
7 Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur.
8 Ond offrymwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.
9 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt,
10 Pan ddeloch i'r tir a roddaf i chwi, a medi ohonoch ei gynhaeaf; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.
11 Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd, i'ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi'r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi.