8 Ond offrymwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.
9 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt,
10 Pan ddeloch i'r tir a roddaf i chwi, a medi ohonoch ei gynhaeaf; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.
11 Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd, i'ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi'r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi.
12 Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm i'r Arglwydd.
13 A'i fwyd‐offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd, yn arogl peraidd: a'i ddiod‐offrwm fyddo win, pedwaredd ran hin.
14 Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwm eich Duw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.