1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur, coethedig, i'r goleuni, i beri i'r lampau gynnau bob amser.
3 O'r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn.
4 Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser.
5 A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen.
6 A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr Arglwydd.