13 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
14 Dwg y cablydd i'r tu allan i'r gwersyll: a rhodded pawb a'i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef.
15 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod.
16 A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a'i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a'r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.
17 A'r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.
18 A'r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail.
19 A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo: