18 A'r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail.
19 A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:
20 Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.
21 A'r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir.
22 Bydded un farn i chwi; bydded i'r dieithr, fel i'r priodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.
23 A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i'r tu allan i'r gwersyll, ac a'i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.