3 O'r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn.
4 Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser.
5 A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen.
6 A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr Arglwydd.
7 A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.
8 Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr Arglwydd bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel.
9 A bydd eiddo Aaron a'i feibion; a hwy a'i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol.