1 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ym mynydd Sinai, gan ddywedyd,
2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i'r tir yr hwn a roddaf i chwi; yna gorffwysed y tir Saboth i'r Arglwydd.
3 Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cesgli ei chnwd.
4 Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i'r tir, sef Saboth i'r Arglwydd: na heua dy faes, ac na thor dy winllan.
5 Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist: bydd yn flwyddyn orffwystra i'r tir.
6 Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i'th wasanaethwr, ac i'th wasanaethferch, ac i'th weinidog cyflog, ac i'th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi.
7 I'th anifail hefyd, ac i'r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.