12 Am ei bod yn jiwbili, bydded sanctaidd i chwi: o'r maes y bwytewch ei ffrwyth hi.
13 O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth.
14 Pan werthech ddim i'th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymwch bawb eich gilydd.
15 Prŷn gan dy gymydog yn ôl rhifedi'r blynyddoedd ar ôl y jiwbili; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau.
16 Yn ôl amldra'r blynyddoedd y chwanegi ei bris, ac yn ôl anamldra'r blynyddoedd y lleihei di ei bris; oherwydd rhifedi'r cnydau y mae efe yn ei werthu i ti.
17 Ac na orthrymwch bob un ei gymydog; ond ofna dy Dduw: canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.
18 Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel.