17 Ac na orthrymwch bob un ei gymydog; ond ofna dy Dduw: canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.
18 Gwnewch chwithau fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt; a chewch drigo yn y tir yn ddiogel.
19 Y tir hefyd a rydd ei ffrwyth; a chewch fwyta digon, a thrigo ynddo yn ddiogel.
20 Ac hefyd os dywedwch, Beth a fwytawn y seithfed flwyddyn? wele, ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd:
21 Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn; a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd.
22 A'r wythfed flwyddyn yr heuwch; ond bwytewch o'r hen gnwd hyd y nawfed flwyddyn: nes dyfod ei chnwd hi, y bwytewch o'r hen.
23 A'r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi.