23 A'r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; oherwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyda mi.
24 Ac yn holl dir eich etifeddiaeth rhoddwch ollyngdod i'r tir.
25 Os tloda dy frawd, a gwerthu dim o'i etifeddiaeth, a dyfod ei gyfnesaf i'w ollwng; yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd.
26 Ond os y gŵr ni bydd ganddo neb a'i gollyngo, a chyrhaeddyd o'i law ef ei hun gael digon i'w ollwng:
27 Yna cyfrifed flynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hyn fyddo dros ben i'r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo; felly aed eilwaith i'w etifeddiaeth.
28 Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo; yna bydded yr hyn a werthodd efe yn llaw yr hwn a'i prynodd hyd flwyddyn y jiwbili; ac yn y jiwbili yr â yn rhydd, ac efe a ddychwel i'w etifeddiaeth.
29 A phan wertho gŵr dŷ annedd o fewn dinas gaerog; yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu: dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.