29 A phan wertho gŵr dŷ annedd o fewn dinas gaerog; yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu: dros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.
30 Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwyddyn gyfan; yna sicrhaer y tŷ, yr hwn fydd yn y ddinas gaerog, yn llwyr i'r neb a'i prynodd, ac i'w hiliogaeth: nid â yn rhydd yn y jiwbili.
31 Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt, a gyfrifir fel meysydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y jiwbili yr ânt yn rhydd.
32 Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i'r Lefiaid eu gollwng bob amser.
33 Ac os prŷn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jiwbili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel.
34 Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt.
35 A phan dlodo dy frawd gyda thi, a llesgáu o'i law; cynorthwya ef, fel y byddo byw gyda thi; er ei fod yn ddieithrddyn, neu yn alltud.