32 Ond dinasoedd y Lefiaid, a thai dinasoedd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i'r Lefiaid eu gollwng bob amser.
33 Ac os prŷn un gan y Lefiaid; yna aed y tŷ a werthwyd, a dinas ei etifeddiaeth ef, allan yn y jiwbili: canys tai dinasoedd y Lefiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ymysg meibion Israel.
34 Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragwyddol yw efe iddynt.
35 A phan dlodo dy frawd gyda thi, a llesgáu o'i law; cynorthwya ef, fel y byddo byw gyda thi; er ei fod yn ddieithrddyn, neu yn alltud.
36 Na chymer ganddo ocraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gad i'th frawd fyw gyda thi.
37 Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log.
38 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aifft, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.