36 Na chymer ganddo ocraeth na llog; ond ofna dy Dduw: a gad i'th frawd fyw gyda thi.
37 Na ddod dy arian iddo ar usuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar log.
38 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aifft, i roddi i chwi dir Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.
39 A phan dlodo dy frawd gyda thi, a'i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas.
40 Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi.
41 Yna aed oddi wrthyt ti, efe a'i blant gydag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.
42 Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft: na werther hwynt fel caethweision.