39 A phan dlodo dy frawd gyda thi, a'i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas.
40 Bydded gyda thi fel gweinidog cyflog, fel ymdeithydd; hyd flwyddyn y jiwbili y caiff wasanaethu gyda thi.
41 Yna aed oddi wrthyt ti, efe a'i blant gydag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.
42 Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft: na werther hwynt fel caethweision.
43 Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy Dduw.
44 A chymer dy wasanaethwr, a'th wasanaethferch, y rhai fyddant i ti, o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o'ch amgylch: ohonynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch.
45 A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyda chwi, prynwch o'r rhai hyn, ac o'u tylwyth y rhai ŷnt gyda chwi, y rhai a genedlasant hwy yn eich tir chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant.