4 Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Saboth gorffwystra i'r tir, sef Saboth i'r Arglwydd: na heua dy faes, ac na thor dy winllan.
5 Na chynaeafa yr hyn a dyfo ohono ei hun, ac na chasgl rawnwin dy winwydden ni theclaist: bydd yn flwyddyn orffwystra i'r tir.
6 Ond bydded ffrwyth Saboth y tir yn ymborth i chwi; sef i ti, ac i'th wasanaethwr, ac i'th wasanaethferch, ac i'th weinidog cyflog, ac i'th alltud yr hwn a ymdeithio gyda thi.
7 I'th anifail hefyd, ac i'r bwystfil fydd yn dy dir, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.
8 Cyfrif hefyd i ti saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; dyddiau y saith Saboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain.
9 Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o'r mis; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad.
10 A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i'w holl drigolion: jiwbili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth, ie, dychwelwch bob un at ei deulu.