41 Yna aed oddi wrthyt ti, efe a'i blant gydag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed drachefn i etifeddiaeth ei dadau.
42 Canys fy ngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft: na werther hwynt fel caethweision.
43 Na feistrola arno ef yn galed; ond ofna dy Dduw.
44 A chymer dy wasanaethwr, a'th wasanaethferch, y rhai fyddant i ti, o fysg y cenhedloedd y rhai ydynt o'ch amgylch: ohonynt y prynwch wasanaethwr a gwasanaethferch.
45 A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ymdeithiant gyda chwi, prynwch o'r rhai hyn, ac o'u tylwyth y rhai ŷnt gyda chwi, y rhai a genedlasant hwy yn eich tir chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant.
46 Ac etifeddwch hwynt i'ch plant ar eich ôl, i'w meddiannu hwynt yn etifeddiaeth; gwnewch iddynt eich gwasanaethu byth: ond eich brodyr, meibion Israel, na feistrolwch yn galed y naill ar y llall.
47 A phan gyrhaeddo llaw dyn dieithr neu ymdeithydd gyfoeth gyda thi, ac i'th frawd dlodi yn ei ymyl ef, a'i werthu ei hun i'r dieithr yr hwn fydd yn trigo gyda thi, neu i un o hiliogaeth tylwyth y dieithrddyn: