48 Wedi ei werthu, ceir ei ollwng yn rhydd; un o'i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd;
49 Naill ai ei ewythr, ai mab ei ewythr, a'i gollwng ef yn rhydd; neu un o'i gyfnesaf ef, o'i dylwyth ei hun, a'i gollwng yn rhydd; neu, os ei law a gyrraedd, gollynged efe ef ei hun.
50 A chyfrifed â'i brynwr, o'r flwyddyn y gwerthwyd ef, hyd flwyddyn y jiwbili: a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi'r blynyddoedd; megis dyddiau gweinidog cyflog y bydd gydag ef.
51 Os llawer fydd o flynyddoedd yn ôl; taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny.
52 Ac os ychydig flynyddoedd fydd yn ôl hyd flwyddyn y jiwbili, pan gyfrifo ag ef; taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd.
53 Megis gwas cyflog o flwyddyn i flwyddyn y bydd efe gydag ef: ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di.
54 Ac os efe ni ollyngir o fewn y blynyddoedd hyn; yna aed allan flwyddyn y jiwbili, efe a'i blant gydag ef.