9 Yna pâr ganu i ti utgorn y jiwbili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o'r mis; ar ddydd y cymod cenwch yr utgorn trwy eich holl wlad.
10 A sancteiddiwch y ddegfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch ryddid yn y wlad i'w holl drigolion: jiwbili fydd hi i chwi; a dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth, ie, dychwelwch bob un at ei deulu.
11 Y ddegfed flwyddyn a deugain honno fydd jiwbili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo ohono ei hun; ac na chynullwch ei gwinwydden ni thaclwyd.
12 Am ei bod yn jiwbili, bydded sanctaidd i chwi: o'r maes y bwytewch ei ffrwyth hi.
13 O fewn y flwyddyn jiwbili hon y dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth.
14 Pan werthech ddim i'th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymwch bawb eich gilydd.
15 Prŷn gan dy gymydog yn ôl rhifedi'r blynyddoedd ar ôl y jiwbili; a gwerthed efe i tithau yn ôl rhifedi blynyddoedd y cnydau.