11 Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.
12 A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.
13 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a'ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.
14 Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn;
15 Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod;
16 Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a'r cryd poeth, y rhai a wna i'r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a'i bwyty:
17 Ac a osodaf fy wyneb i'ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a'ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.