16 Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a'r cryd poeth, y rhai a wna i'r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a'i bwyty:
17 Ac a osodaf fy wyneb i'ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a'ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
18 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau.
19 A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a'ch tir chwi fel pres:
20 A'ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.
21 Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.
22 Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a'ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a'ch lleiha chwi; a'ch ffyrdd a wneir yn anialwch.