5 A'ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a'ch bara a fwytewch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel.
6 Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i'r bwystfil niweidiol ddarfod o'r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.
7 Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o'ch blaen ar y cleddyf.
8 A phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a'ch gelynion a syrth o'ch blaen ar y cleddyf.
9 A mi a edrychaf amdanoch, ac a'ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a'ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi.
10 A'r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd.
11 Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.