1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan addunedo neb adduned neilltuol, y dynion fydd eiddo yr Arglwydd, yn dy bris di.
3 A bydd dy bris, am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd, ie, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ôl sicl y cysegr.
4 Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain.