12 A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd.
13 Ac os efe gan brynu a'i prŷn; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg.
14 A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i'r Arglwydd; yna yr offeiriad a'i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio'r offeiriad ef, felly y saif.
15 Ac os yr hwn a'i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato, a bydded eiddo ef.
16 Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i'r Arglwydd; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad: heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian.
17 Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes, yn ôl dy bris di y saif.
18 Ond os wedi'r jiwbili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl, hyd flwyddyn y jiwbili, a lleihaer ar dy bris di.