14 A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i'r Arglwydd; yna yr offeiriad a'i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio'r offeiriad ef, felly y saif.
15 Ac os yr hwn a'i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato, a bydded eiddo ef.
16 Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i'r Arglwydd; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad: heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian.
17 Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes, yn ôl dy bris di y saif.
18 Ond os wedi'r jiwbili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl, hyd flwyddyn y jiwbili, a lleihaer ar dy bris di.
19 Ac os yr hwn a'i sancteiddiodd gan brynu a brŷn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato, a bydded iddo ef.
20 Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i ŵr arall; ni cheir ei ollwng mwy.