20 Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i ŵr arall; ni cheir ei ollwng mwy.
21 A'r maes fydd, pan elo efe allan yn y jiwbili, yn gysegredig i'r Arglwydd, fel maes diofryd: a bydded yn feddiant i'r offeiriad.
22 Ac os ei dir prŷn, yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i'r Arglwydd;
23 Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i'r Arglwydd, y dydd hwnnw.
24 Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i'r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir.
25 A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr: ugain gera fydd y sicl.
26 Ond y cyntaf‐anedig o anifail, yr hwn sydd flaenffrwyth i'r Arglwydd, na chysegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe.