23 Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i'r Arglwydd, y dydd hwnnw.
24 Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i'r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir.
25 A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr: ugain gera fydd y sicl.
26 Ond y cyntaf‐anedig o anifail, yr hwn sydd flaenffrwyth i'r Arglwydd, na chysegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe.
27 Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhaed ef yn dy bris di, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato: ac onis rhyddha, yna gwerther ef yn dy bris di.
28 Ond pob diofryd‐beth a ddiofrydo un i'r Arglwydd, o'r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir: pob diofryd‐beth sydd sancteiddiolaf i'r Arglwydd.
29 Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog, yr hwn a ddiofryder gan ddyn: lladder yn farw.