27 Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhaed ef yn dy bris di, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato: ac onis rhyddha, yna gwerther ef yn dy bris di.
28 Ond pob diofryd‐beth a ddiofrydo un i'r Arglwydd, o'r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir: pob diofryd‐beth sydd sancteiddiolaf i'r Arglwydd.
29 Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog, yr hwn a ddiofryder gan ddyn: lladder yn farw.
30 A holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a'u piau: cysegredig i'r Arglwydd yw.
31 Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o'i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato.
32 A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cysegredig i'r Arglwydd.
33 Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig; ni ellir ei ollwng yn rhydd.