3 A bydd dy bris, am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd, ie, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ôl sicl y cysegr.
4 Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain.
5 Ac o fab pum mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl.
6 A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd, bum sicl o arian; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian.
7 Ac o fab trigeinmlwydd ac uchod, os gwryw fydd, bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl.
8 Ond os tlotach fydd efe na'th bris di; yna safed gerbron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia'r offeiriad ef.
9 Ond os anifail, yr hwn yr offrymir ohono offrwm i'r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o'r cyfryw i'r Arglwydd, sanctaidd fydd.