31 Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o'i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato.
32 A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cysegredig i'r Arglwydd.
33 Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig; ni ellir ei ollwng yn rhydd.
34 Dyma'r gorchmynion a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.