8 Ond os tlotach fydd efe na'th bris di; yna safed gerbron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia'r offeiriad ef.
9 Ond os anifail, yr hwn yr offrymir ohono offrwm i'r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o'r cyfryw i'r Arglwydd, sanctaidd fydd.
10 Na rodded un arall amdano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd.
11 Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i'r Arglwydd; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad
12 A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd.
13 Ac os efe gan brynu a'i prŷn; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg.
14 A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i'r Arglwydd; yna yr offeiriad a'i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio'r offeiriad ef, felly y saif.