4 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a'r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â'r arennau.
5 A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â'r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
6 Ac os o'r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i'r Arglwydd, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl.
7 Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr Arglwydd.
8 A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch.
9 Ac offrymed o'r aberth hedd yn aberth tanllyd i'r Arglwydd; ei weren, a'r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â'r weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;
10 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.