9 Ac offrymed o'r aberth hedd yn aberth tanllyd i'r Arglwydd; ei weren, a'r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â'r weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;
10 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.
11 A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd i'r Arglwydd ydyw.
12 Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd.
13 A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.
14 Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i'r Arglwydd; sef y weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;
15 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.