1 Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.
2 Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.
3 Neu pan gyffyrddo ag aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o'i blegid, a'r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.
4 Neu os dyn a dwng, gan draethu â'r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a'r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.
5 A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo: