11 Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.
12 A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i'r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.
13 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o'r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i'r offeiriad y gweddill, megis o'r bwyd‐offrwm.
14 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
15 Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i'r Arglwydd; yna dyged i'r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o'r praidd, gyda'th bris di o siclau arian, yn ôl sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd.
16 A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.
17 Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr Arglwydd, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, eto euog fydd, a'i anwiredd a ddwg.