7 Ond os ei law ni chyrraedd werth oen, dyged i'r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn aberth dros bechod, a'r llall yn boethoffrwm.
8 A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.
9 A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o'r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod.
10 A'r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl y ddefod: a'r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
11 Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.
12 A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i'r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.
13 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o'r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i'r offeiriad y gweddill, megis o'r bwyd‐offrwm.