14 Dyma hefyd gyfraith y bwyd‐offrwm. Dyged meibion Aaron ef gerbron yr Arglwydd, o flaen yr allor:
15 A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd‐offrwm, ac o'i olew, a'r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd‐offrwm; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i'r Arglwydd.
16 A'r gweddill ohono a fwyty Aaron a'i feibion: yn groyw y bwyteir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef.
17 Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o'm haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a'r aberth dros gamwedd.
18 Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn: deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
19 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
20 Dyma offrwm Aaron a'i feibion, yr hwn a offrymant i'r Arglwydd, ar y dydd yr eneinier ef. Degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a'i hanner brynhawn.