1 Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: sancteiddiolaf yw.
2 Yn y man lle y lladdant y poethoffrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a'i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch.
3 A'i holl wêr a offryma efe ohono; y gloren hefyd, a'r weren fol.
4 A'r ddwy aren, a'r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.