14 Ac offrymed o hyn un dorth o'r holl offrwm, yn offrwm dyrchafael i'r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo'r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd.
15 A chig ei hedd‐aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef: na adawer dim ohono hyd y bore.
16 Ond os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef; y dydd yr offrymo efe ei aberth, bwytaer ef: a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill ohono.
17 Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân.
18 Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i'r hwn a'i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a'r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd.
19 A'r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyteir; mewn tân y llosgir ef: a'r cig arall, pob glân a fwyty ohono.
20 A'r dyn a fwytao gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i'r Arglwydd, a'i aflendid arno; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.