17 Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân.
18 Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i'r hwn a'i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a'r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd.
19 A'r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyteir; mewn tân y llosgir ef: a'r cig arall, pob glân a fwyty ohono.
20 A'r dyn a fwytao gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i'r Arglwydd, a'i aflendid arno; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
21 Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef ag aflendid dyn, neu ag anifail aflan, neu ag un ffieiddbeth aflan, a bwyta o gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i'r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
22 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
23 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr.