23 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr.
24 Eto gwêr burgyn, neu wêr ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith; ond gan fwyta na fwytewch ef.
25 Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail, o'r hwn yr offrymir aberth tanllyd i'r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a'i bwytao o fysg ei bobl.
26 Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o'r eiddo aderyn, nac o'r eiddo anifail.
27 Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
29 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i'r Arglwydd, dyged ei rodd o'i aberth hedd i'r Arglwydd.