26 Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o'r eiddo aderyn, nac o'r eiddo anifail.
27 Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
29 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i'r Arglwydd, dyged ei rodd o'i aberth hedd i'r Arglwydd.
30 Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwêr ynghyd â'r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i'w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
31 A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i'w feibion.
32 Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i'r offeiriad, o'ch ebyrth hedd.