28 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
29 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i'r Arglwydd, dyged ei rodd o'i aberth hedd i'r Arglwydd.
30 Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwêr ynghyd â'r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i'w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
31 A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i'w feibion.
32 Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i'r offeiriad, o'ch ebyrth hedd.
33 Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd, a'r gwêr; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan.
34 Oherwydd parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyrchafael, a gymerais i gan feibion Israel o'u hebyrth hedd, ac a'u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i'w feibion, trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel.