3 A'i holl wêr a offryma efe ohono; y gloren hefyd, a'r weren fol.
4 A'r ddwy aren, a'r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.
5 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd: aberth dros gamwedd yw.
6 Pob gwryw ymysg yr offeiriaid a'i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef: sancteiddiolaf yw.
7 Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymod ag ef, a'i piau.
8 A'r offeiriad a offrymo boethoffrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poethoffrwm a offrymodd efe.
9 A phob bwyd‐offrwm a graser mewn ffwrn, a'r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo'r offeiriad a'i hoffrymo.